Translate

Monday 14 May 2012

Pantglas.

Diolch i Mihangel Morgan am gael y cyfle i neud y clawr ar gyfer nofel Pantglas:

Adolygiad Janice Jones o Pantglas gan Mihangel Morgan. Y Lolfa. tt. 251. £8.95
Pantglas yw wythfed nofel Mihangel Morgan ac mae darlun clawr deniadol Ruth Jên yn sicr o ddenu llygad unrhyw ddarpar ddarllenydd.
Yn ogystal, cynhwyswyd nifer fechan o bortreadau arddulliedig yr arlunydd o drigolion Pantglas yng nghorff y gwaith ac maent yn gweddu i'r dim.

Clawr y llyfr
Egyr y gyfrol hon gydag oddeutu hanner dwsin o ddyfyniadau sy'n mynegi'r 'cam' a wnaethpwyd â Chymru wrth i ardaloedd gael eu boddi i gyflenwi dŵr i ddinasoedd yn Lloegr. Darlunnir hefyd ddiymadferthedd Cymry'r gorffennol yn wyneb digwyddiadau o'r fath.
Roedd y dyfyniadau yn peri i ddarllenydd ddisgwyl y byddai rhywbeth gwahanol, rhywbeth mwy heriol ac ymfflamychol i ddilyn, rhywbeth fyddai'n gwrthddweud yr hyn a welwyd yn y dyfyniadau.
Ond nid yw'r nofel hon yn meddu ar linyn storïol gref felly: yn hytrach, dilyna hynt a helynt trigolion Pantglas wrth eu bywydau bob dydd tra bo'r gwaith ar yr argae yn mynd ymlaen o'u cwmpas.
Cawn brofi'r mân ddigwyddiadau a'r trasiedïau mawrion ym mywydau'r pentrefwyr: geni, marw, caru, cyfrinachau, trais a hyd yn oed llofruddiaethau; caiff y cyfan ei gwmpasu yn hanes y pentref hwn a'i drigolion.
A chrynhoir atyniadau daearyddol y pentref yn adroddiad Mr Smith i Gorfforaeth y Ddinas ar addasrwydd Pantglas ar gyfer yr hyn sydd mewn golwg ganddynt wrth iddo ddarparu i ymadael â'r pentref:
Pantglas, South Wales:
population, 92; houses,17; churches, 1; chapels, 1; inns, 3; farmhouses, 10; great houses, Duferin Hall.
Site: North, mountains; West, mountains; South, mountains; East, mountains. River.
Assessment: ideal.
Adar brithion yw trigolion Pantglas: John 'Pantglas' Jones ei hun, Pitar Ŵad y meddwyn, Pedws Ffowc y wrach, Popi'r butain ac Estons y gof, ymysg eraill. Mae yma'r gymysgedd o drigolion y byddai rhywun yn ei ddisgwyl mewn darlun o bentref ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae nifer o'r cymeriadau hyn yn dra boddhaol, ond tueddu at fod yn un ddimensiwn mae ambell un, ac o'r herwydd, yn ymddangos ychydig yn gartwnaidd.
Ond gwelir yma fywyd - a marwolaeth - yn ei holl ogoniant wrth i bobl Pantglas ddechrau deall beth fydd yn digwydd i'w pentref, a chychwyn madael, fesul un neu ddau neu deulu cyfan.
Gwelir yma hefyd sôn am hen goelion gwerin megis y toili a channwyll corff, yn ogystal ag arferion megis chwarae bando, y ffair ac ymweliad y dyn sioe: 'John Henry Morris, Consuriwr Cyfrwysaf Cymru'.
Wrth i'r nofel fynd rhagddi gwelir hefyd sut y mae dyfodiad gweithwyr yr argae a'u teuluoedd yn dylanwadu ar drigolion Pantglas ac ar y pentref.
Penodau byrion iawn sydd i'r nofel - sawl un prin hwy na thudalen - ac er bod hynny yn gwneud y darllen yn rhwydd iawn, golyga hefyd bod darllenydd o dro i dro yn teimlo rhwystredigaeth wrth fethu a chael 'gafael' ar y digwydd.
Er bod y dafodiaith ychydig yn ddieithr i glust 'gog', mae'r iaith lafar ac iaith y naratif yn gyfoethog ac yn bleser i'w darllen.
Hanes pentref LLanwddyn a Llyn Efyrnwy sydd wedi'i ddefnyddio'n rhannol fel cefndir ar gyfer y nofel hon. Mae'r awdur yn egluro mewn ôl-nodyn sut y bu i'w gysylltiadau teuluol ei hun â'r ardal ei ysbrydoli i fynd ati i ysgrifennu Pantglas. Meddai:
"Roedd fy hen fam-gu ar ochr fy nhad yn un o drigolion Llanwddyn, ac yn ôl ewythr i mi roedd hi'n cadw siop yn y pentre. Roedd fy hen dad-cu yn llafurwr a weithiodd ar argae Llyn Efyrnwy . . . "
Ond cadarnha: "nid llyfr hanes mo hwn ond ffuglen".
Hanes neu ffuglen, mae Pantglas yn cynnig adloniant i'r darllenydd ac er nad oes yma linyn storïol gref mae yma gryn dipyn i gnoi cil arno.




No comments: