Translate

Sunday 18 May 2014

Cyfri Defaid



Yn ardal Cumbria a deheudir Yr Alban,byddai bugeiliaid tan yn ddiweddar yn cyfri eu praidd wrth ddefnyddio'r Gymbrieg a siaredid yno tua'r 11eg ganrif.
Dyma esiampl o ardal Keswick: yan (1), tyan (2), tethera (3), methera (4), pimp (5), sethera (6), lethera (7), hovera (8), dovera (9), dick (10), bumfit (15) a giggot (20). 
From Tony Walker wcti@btinternet.com
Sheep Counting.

The Cumbrian sheep numerals are clearly Celtic in origin and clearly Brittonic rather than Gaelic. Their closest relatives are those of Welsh, Cornish and Breton. However, I think that the form 'giggot' proves that they are not imported from Wales (though they may be from Stratchclyde). Actually the Strathclyde survival is a bit of a red herring as the Medieval Kingdom of Strathclyde with its language 'Cumbric' was alternatively known as Cumbria or Cambria. So to talk about importing from Strathclyde to Cumbria is tautological.

Ok, Giggot.

20 in Irish is Fichead and 20 in Welsh is Ugain.   So far no obvious connection. In Middle Welsh it is ugeint. Getting closer. Both the Irish and Welsh forms point back to a Common Celtic form   *wicant.  In Welsh
and in Cumbric an initial 'w' can grow a "G" in front of it. Normall does actually, but irritatingly not in ugeint (=20). Compare Gwas (a servant) Welsh and "Gos" a servant as in "Gospatric" and early Cumbrian
aristocrat. So common Celtic would regularly give something like "Gwigent" in early Cumbric. Now another thing that Cumbric appears to do is, after growing a g in front of a w sound, it loses the 'w' leaving
just the G. Compare Gospatric against the Welsh Gwaspadrig and the Galloway word "gossocks" which is of the same origin. 
Still with me?  So I would expect the Cumbric word for 20 to have been Giggent.    Clearly I have still to explain the loss of the 'n'. Irish does it too in 'Fichead' notice above, but I am not claiming Irish
influence. It is either a development of the Cumbric langauge that we know nothing about or it has just got worn down over the centuries 
There you go - pretty strong arguments in favour of the Sheep counting numerals in the North West of England and Scotland to be relics of the native Cumbric langauge rather than imports or reinventions.  For
comparison I give the Welsh numberals to 20 in their feminine forms. Remember sheep 'dafad' is feminine so I would expect the Cumbric numerals to be feminine too.

Un, dwy, tair, pedair, pump (pron. pimp), chwech, saith, wyth, deg, un
ar ddeg, deuddeg, tair ar ddeg, pedair ar ddeg, pymtheg, (pron.
pumtheg), un ar bymtheg, dwy ar bymtheg, deunaw, pedair ar bymtheg,
ugain


Sunday 20 April 2014

John Deakin

Wedi penderfynu ail gydio yn y blogio.

Newydd dreulio tridiau yn Llundain. Mynd i weld arddangosfa 'Stardust' gan David Bailey yn y National Portrait Gallery. Arddangosfa cymysg iawn efo gormod o themau, ond darganfyddiad anisgwyl yn y 'Photographers Gallery'   oedd :


UNDER THE INFLUENCE: JOHN DEAKIN AND THE LURE OF SOHO

John Deakin, Portrait of Oliver Bernard, 1956
11 Apr - 13 July 2014




Friday 7 September 2012

Stiwdio Agored / open studio




STIWDIO AGORED

Dydd Sadwrn yma, 8fed o Fedi,
10-4pm,
Yr Hen Siop'Sgidiau, Talybont,Aberystwyth

Gwaith celf gwreiddiol, cardiau, crysau-t a mwy...

OPEN STUDIO
This Saturday,8th of Sept
10-4pm,
Yr Hen Siop'Sgidiau, Talybont,Aberystwyth
Original artwork,cards,t-shirts and much more...

Monday 14 May 2012

Fairings


“Fairings”
Yn ystod Oes Fictoria pe byddech  yn ymweld ar ffair, nid pysgodyn aur byddai’r wobr am daflu hwpla ond ffigyrau tseina wedi eu mewnforio o’r Almaen. Pethau rhad wedi eu atgynyrchu ar themau fel “Welsh Tea Party” oeddd yn boblogaidd.Gelwir y math yma o addurn yn “Fairing”

Pantglas.

Diolch i Mihangel Morgan am gael y cyfle i neud y clawr ar gyfer nofel Pantglas:

Adolygiad Janice Jones o Pantglas gan Mihangel Morgan. Y Lolfa. tt. 251. £8.95
Pantglas yw wythfed nofel Mihangel Morgan ac mae darlun clawr deniadol Ruth Jên yn sicr o ddenu llygad unrhyw ddarpar ddarllenydd.
Yn ogystal, cynhwyswyd nifer fechan o bortreadau arddulliedig yr arlunydd o drigolion Pantglas yng nghorff y gwaith ac maent yn gweddu i'r dim.

Clawr y llyfr
Egyr y gyfrol hon gydag oddeutu hanner dwsin o ddyfyniadau sy'n mynegi'r 'cam' a wnaethpwyd â Chymru wrth i ardaloedd gael eu boddi i gyflenwi dŵr i ddinasoedd yn Lloegr. Darlunnir hefyd ddiymadferthedd Cymry'r gorffennol yn wyneb digwyddiadau o'r fath.
Roedd y dyfyniadau yn peri i ddarllenydd ddisgwyl y byddai rhywbeth gwahanol, rhywbeth mwy heriol ac ymfflamychol i ddilyn, rhywbeth fyddai'n gwrthddweud yr hyn a welwyd yn y dyfyniadau.
Ond nid yw'r nofel hon yn meddu ar linyn storïol gref felly: yn hytrach, dilyna hynt a helynt trigolion Pantglas wrth eu bywydau bob dydd tra bo'r gwaith ar yr argae yn mynd ymlaen o'u cwmpas.
Cawn brofi'r mân ddigwyddiadau a'r trasiedïau mawrion ym mywydau'r pentrefwyr: geni, marw, caru, cyfrinachau, trais a hyd yn oed llofruddiaethau; caiff y cyfan ei gwmpasu yn hanes y pentref hwn a'i drigolion.
A chrynhoir atyniadau daearyddol y pentref yn adroddiad Mr Smith i Gorfforaeth y Ddinas ar addasrwydd Pantglas ar gyfer yr hyn sydd mewn golwg ganddynt wrth iddo ddarparu i ymadael â'r pentref:
Pantglas, South Wales:
population, 92; houses,17; churches, 1; chapels, 1; inns, 3; farmhouses, 10; great houses, Duferin Hall.
Site: North, mountains; West, mountains; South, mountains; East, mountains. River.
Assessment: ideal.
Adar brithion yw trigolion Pantglas: John 'Pantglas' Jones ei hun, Pitar Ŵad y meddwyn, Pedws Ffowc y wrach, Popi'r butain ac Estons y gof, ymysg eraill. Mae yma'r gymysgedd o drigolion y byddai rhywun yn ei ddisgwyl mewn darlun o bentref ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae nifer o'r cymeriadau hyn yn dra boddhaol, ond tueddu at fod yn un ddimensiwn mae ambell un, ac o'r herwydd, yn ymddangos ychydig yn gartwnaidd.
Ond gwelir yma fywyd - a marwolaeth - yn ei holl ogoniant wrth i bobl Pantglas ddechrau deall beth fydd yn digwydd i'w pentref, a chychwyn madael, fesul un neu ddau neu deulu cyfan.
Gwelir yma hefyd sôn am hen goelion gwerin megis y toili a channwyll corff, yn ogystal ag arferion megis chwarae bando, y ffair ac ymweliad y dyn sioe: 'John Henry Morris, Consuriwr Cyfrwysaf Cymru'.
Wrth i'r nofel fynd rhagddi gwelir hefyd sut y mae dyfodiad gweithwyr yr argae a'u teuluoedd yn dylanwadu ar drigolion Pantglas ac ar y pentref.
Penodau byrion iawn sydd i'r nofel - sawl un prin hwy na thudalen - ac er bod hynny yn gwneud y darllen yn rhwydd iawn, golyga hefyd bod darllenydd o dro i dro yn teimlo rhwystredigaeth wrth fethu a chael 'gafael' ar y digwydd.
Er bod y dafodiaith ychydig yn ddieithr i glust 'gog', mae'r iaith lafar ac iaith y naratif yn gyfoethog ac yn bleser i'w darllen.
Hanes pentref LLanwddyn a Llyn Efyrnwy sydd wedi'i ddefnyddio'n rhannol fel cefndir ar gyfer y nofel hon. Mae'r awdur yn egluro mewn ôl-nodyn sut y bu i'w gysylltiadau teuluol ei hun â'r ardal ei ysbrydoli i fynd ati i ysgrifennu Pantglas. Meddai:
"Roedd fy hen fam-gu ar ochr fy nhad yn un o drigolion Llanwddyn, ac yn ôl ewythr i mi roedd hi'n cadw siop yn y pentre. Roedd fy hen dad-cu yn llafurwr a weithiodd ar argae Llyn Efyrnwy . . . "
Ond cadarnha: "nid llyfr hanes mo hwn ond ffuglen".
Hanes neu ffuglen, mae Pantglas yn cynnig adloniant i'r darllenydd ac er nad oes yma linyn storïol gref mae yma gryn dipyn i gnoi cil arno.




Diwidiant Gwlan



Yn y diwydiant gwlân, byddai rhai gwehyddion yn gweithio o'u cartrefi gydag eraill yn gweithio mewn ffatrioedd. Erbyn 1835 roedd gan Melin Leri beiriannau cribo, stociau pannwr, a nyddwr llaw yn ogystal â nifer o wyddion llaw. Byddai'r wlanen yn cael ei gwerthu'n lleol gan amlaf, i ffermwyr ac i'r mwynwyr plwm, neu yn y ffeiriau yn Aberystwyth, Machynlleth a Thal-y-bont. Ond fe fyddai Thomas Morgan, perchennog Melin Leri, hefyd yn ymweld yn aml â'r Newtown Flannel Exchange lle y gwerthwyd y cynnyrch i ddilledyddion yn Llundain, Amwythig ac i drefi a dinasoedd eraill yn Lloegr.Roedd y ddau ddiwydiant yn eu hanterth yn Nhalybont yn y cyfnod rhwng 1830 ac 1890 ond erbyn y 1920au roedd y mwyngloddiau plwm wedi cau ac fe darawodd y Dirwasgiad y melinau gwlân hefyd.