Translate

Monday 14 May 2012

Fairings


“Fairings”
Yn ystod Oes Fictoria pe byddech  yn ymweld ar ffair, nid pysgodyn aur byddai’r wobr am daflu hwpla ond ffigyrau tseina wedi eu mewnforio o’r Almaen. Pethau rhad wedi eu atgynyrchu ar themau fel “Welsh Tea Party” oeddd yn boblogaidd.Gelwir y math yma o addurn yn “Fairing”

Pantglas.

Diolch i Mihangel Morgan am gael y cyfle i neud y clawr ar gyfer nofel Pantglas:

Adolygiad Janice Jones o Pantglas gan Mihangel Morgan. Y Lolfa. tt. 251. £8.95
Pantglas yw wythfed nofel Mihangel Morgan ac mae darlun clawr deniadol Ruth Jên yn sicr o ddenu llygad unrhyw ddarpar ddarllenydd.
Yn ogystal, cynhwyswyd nifer fechan o bortreadau arddulliedig yr arlunydd o drigolion Pantglas yng nghorff y gwaith ac maent yn gweddu i'r dim.

Clawr y llyfr
Egyr y gyfrol hon gydag oddeutu hanner dwsin o ddyfyniadau sy'n mynegi'r 'cam' a wnaethpwyd â Chymru wrth i ardaloedd gael eu boddi i gyflenwi dŵr i ddinasoedd yn Lloegr. Darlunnir hefyd ddiymadferthedd Cymry'r gorffennol yn wyneb digwyddiadau o'r fath.
Roedd y dyfyniadau yn peri i ddarllenydd ddisgwyl y byddai rhywbeth gwahanol, rhywbeth mwy heriol ac ymfflamychol i ddilyn, rhywbeth fyddai'n gwrthddweud yr hyn a welwyd yn y dyfyniadau.
Ond nid yw'r nofel hon yn meddu ar linyn storïol gref felly: yn hytrach, dilyna hynt a helynt trigolion Pantglas wrth eu bywydau bob dydd tra bo'r gwaith ar yr argae yn mynd ymlaen o'u cwmpas.
Cawn brofi'r mân ddigwyddiadau a'r trasiedïau mawrion ym mywydau'r pentrefwyr: geni, marw, caru, cyfrinachau, trais a hyd yn oed llofruddiaethau; caiff y cyfan ei gwmpasu yn hanes y pentref hwn a'i drigolion.
A chrynhoir atyniadau daearyddol y pentref yn adroddiad Mr Smith i Gorfforaeth y Ddinas ar addasrwydd Pantglas ar gyfer yr hyn sydd mewn golwg ganddynt wrth iddo ddarparu i ymadael â'r pentref:
Pantglas, South Wales:
population, 92; houses,17; churches, 1; chapels, 1; inns, 3; farmhouses, 10; great houses, Duferin Hall.
Site: North, mountains; West, mountains; South, mountains; East, mountains. River.
Assessment: ideal.
Adar brithion yw trigolion Pantglas: John 'Pantglas' Jones ei hun, Pitar Ŵad y meddwyn, Pedws Ffowc y wrach, Popi'r butain ac Estons y gof, ymysg eraill. Mae yma'r gymysgedd o drigolion y byddai rhywun yn ei ddisgwyl mewn darlun o bentref ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae nifer o'r cymeriadau hyn yn dra boddhaol, ond tueddu at fod yn un ddimensiwn mae ambell un, ac o'r herwydd, yn ymddangos ychydig yn gartwnaidd.
Ond gwelir yma fywyd - a marwolaeth - yn ei holl ogoniant wrth i bobl Pantglas ddechrau deall beth fydd yn digwydd i'w pentref, a chychwyn madael, fesul un neu ddau neu deulu cyfan.
Gwelir yma hefyd sôn am hen goelion gwerin megis y toili a channwyll corff, yn ogystal ag arferion megis chwarae bando, y ffair ac ymweliad y dyn sioe: 'John Henry Morris, Consuriwr Cyfrwysaf Cymru'.
Wrth i'r nofel fynd rhagddi gwelir hefyd sut y mae dyfodiad gweithwyr yr argae a'u teuluoedd yn dylanwadu ar drigolion Pantglas ac ar y pentref.
Penodau byrion iawn sydd i'r nofel - sawl un prin hwy na thudalen - ac er bod hynny yn gwneud y darllen yn rhwydd iawn, golyga hefyd bod darllenydd o dro i dro yn teimlo rhwystredigaeth wrth fethu a chael 'gafael' ar y digwydd.
Er bod y dafodiaith ychydig yn ddieithr i glust 'gog', mae'r iaith lafar ac iaith y naratif yn gyfoethog ac yn bleser i'w darllen.
Hanes pentref LLanwddyn a Llyn Efyrnwy sydd wedi'i ddefnyddio'n rhannol fel cefndir ar gyfer y nofel hon. Mae'r awdur yn egluro mewn ôl-nodyn sut y bu i'w gysylltiadau teuluol ei hun â'r ardal ei ysbrydoli i fynd ati i ysgrifennu Pantglas. Meddai:
"Roedd fy hen fam-gu ar ochr fy nhad yn un o drigolion Llanwddyn, ac yn ôl ewythr i mi roedd hi'n cadw siop yn y pentre. Roedd fy hen dad-cu yn llafurwr a weithiodd ar argae Llyn Efyrnwy . . . "
Ond cadarnha: "nid llyfr hanes mo hwn ond ffuglen".
Hanes neu ffuglen, mae Pantglas yn cynnig adloniant i'r darllenydd ac er nad oes yma linyn storïol gref mae yma gryn dipyn i gnoi cil arno.




Diwidiant Gwlan



Yn y diwydiant gwlân, byddai rhai gwehyddion yn gweithio o'u cartrefi gydag eraill yn gweithio mewn ffatrioedd. Erbyn 1835 roedd gan Melin Leri beiriannau cribo, stociau pannwr, a nyddwr llaw yn ogystal â nifer o wyddion llaw. Byddai'r wlanen yn cael ei gwerthu'n lleol gan amlaf, i ffermwyr ac i'r mwynwyr plwm, neu yn y ffeiriau yn Aberystwyth, Machynlleth a Thal-y-bont. Ond fe fyddai Thomas Morgan, perchennog Melin Leri, hefyd yn ymweld yn aml â'r Newtown Flannel Exchange lle y gwerthwyd y cynnyrch i ddilledyddion yn Llundain, Amwythig ac i drefi a dinasoedd eraill yn Lloegr.Roedd y ddau ddiwydiant yn eu hanterth yn Nhalybont yn y cyfnod rhwng 1830 ac 1890 ond erbyn y 1920au roedd y mwyngloddiau plwm wedi cau ac fe darawodd y Dirwasgiad y melinau gwlân hefyd.
 

Melin Ceulan

Melin Ceulan, Talybont, 2012

Caewyd Melin Ceulan yn yr 1950au ac, ar ddechrau'r 1980au, gwelwyd y felin olaf, Melin Leri, hefyd yn cau. Erbyn yr 1990au yr unig felinau gweithredol yn y gymuned bellach oedd y melinau gwynt sydd i'w gweld ar gopa'r bryniau rhwng Tal-y-bont a phentref Bont-goch.

Brethyn



Diwrnod Cneifio yn Wenffrwd
Cneifio oedd uchafbwynt cymdeithasol y flwyddyn ar ffermydd Cymru. Cneifid y cnuau mewn un darn, cyn eu rholio allan a’u plygu’n ofalus i hwyluso’r gwaith o’u didoli yn y felin.

Roedd y broses ddidoli’n hanfodol gan fod gwahanol ddefaid yn cynhyrchu gwlân o wahanol safon. Fe’u defnyddiwyd ar gyfer creu cynhyrchion gwahanol fel dillad, carpedi a charthenni. Mae ansawdd gwlân yn amrywio yn dibynnu ar ba ran o’r ddafad y daeth y cnu.

Diwrnod Cneifio yn Wenffrwd

Treulio diwrnod ar fferm fynyddig Wenffrwd yn tynnu lluniau.O'r chwith i'r dde, Alun Coedgruffudd, Ioan ei nai,Tegwyn Lewis perchenog y fferm, Huw Cwmcae, Steffan Evans (fy nai)