Translate

Wednesday 27 June 2007

31. Mwy owaith El Anatsui




30. El Anatsui



Gwaith yr artist El Anatsui. Wedi ei eni yn Ghana ond yn byw yn Nigeria nawr. Darne oi waith yn y British Museum.Defnyddio pob math o ddefnyddie ai ailgylchu.

29.Em yn cael cawod

Em yn cael cawod yn y pafiliwn Rwsieg...

28. Tracy Emin


llun gwael iawn o Tracy Emin yn agor ei arddangosfa yn y Pafiliwn Prydeinig.....sef torri rhuban.....braidd yn draddodiadol a ddifflach i gymharu ar parti yn y Pafiliwn Rwsieg

Saturday 16 June 2007

27. Graffiti Aber

delwedde o gwmpas Aber



26.jeti


25.Pen Dinas


Dwi wedi bod wrthi yn neud cyfres o gollographs ar ol fod ar y cwrs 'na yn Abertawe efo'r artist Vanita Voogd.Mae'n gret cael chware efo collage unwaith eto, a mae'n ffordd wych o ailgylchu hen brints.

24.Mr.Calon Fawr


wedi bod yn frysur wythnos 'ma...ma mynd a gadel y stiwdio yn neud lles mawr ar adegau...wedi dechrau sawl darn newydd ond sain siwr lle ma hwn i gyd yn arwain?

Friday 15 June 2007

23.stensil


dwi'n rili lico'r cyfansoddiad 'ma

22.Kursk lll



un arall eto!

21.lein ddillad


stim bosib dianc wrth y blwdi crysau-t....

20.Kursk ll

Beth yw celf?
ma well da fi y darnau yma na lot or rwtsh oedd yn y Giardini ar Arsenalle

19.Kursk


Ma'r darn 'ma o graffiti stensil i goffau y morwyr foddodd ar sybmarin Rwsieg y Kursk...ma na sawl un gwahanol i weld o gwmpas Fenis..dwi ddim yn siwr os i nhw yn cynrychioli y 108 a foddwyd.
Dwi wedi trial edrych am fwy o wybodaeth am y darn ar y we ond heb cael fawr o lwc.....hyd yn hyn.

Tuesday 12 June 2007

18.Euros Childs

Y ceiliog yma yn canu yn y Pafiliwn Cymreig ...hyfryd....sandalau....sandalau, dim sanau gyda sandalau yn enwedig yn Fenis!

17.ceiliog Canada



wedi dod nol o'r Biennalle yn Fenis ,dal i brosesu be weles i,dal i gael flashbacks.

Ma Fenis i hunan yn ddigon o sioc i'r synhwyrau !

Y ceiliog yma ym mhafiliwn Canada