Translate

Monday, 14 May 2012

Melin Ceulan

Melin Ceulan, Talybont, 2012

Caewyd Melin Ceulan yn yr 1950au ac, ar ddechrau'r 1980au, gwelwyd y felin olaf, Melin Leri, hefyd yn cau. Erbyn yr 1990au yr unig felinau gweithredol yn y gymuned bellach oedd y melinau gwynt sydd i'w gweld ar gopa'r bryniau rhwng Tal-y-bont a phentref Bont-goch.

Brethyn



Diwrnod Cneifio yn Wenffrwd
Cneifio oedd uchafbwynt cymdeithasol y flwyddyn ar ffermydd Cymru. Cneifid y cnuau mewn un darn, cyn eu rholio allan a’u plygu’n ofalus i hwyluso’r gwaith o’u didoli yn y felin.

Roedd y broses ddidoli’n hanfodol gan fod gwahanol ddefaid yn cynhyrchu gwlân o wahanol safon. Fe’u defnyddiwyd ar gyfer creu cynhyrchion gwahanol fel dillad, carpedi a charthenni. Mae ansawdd gwlân yn amrywio yn dibynnu ar ba ran o’r ddafad y daeth y cnu.

Diwrnod Cneifio yn Wenffrwd

Treulio diwrnod ar fferm fynyddig Wenffrwd yn tynnu lluniau.O'r chwith i'r dde, Alun Coedgruffudd, Ioan ei nai,Tegwyn Lewis perchenog y fferm, Huw Cwmcae, Steffan Evans (fy nai)

Tuesday, 11 November 2008

81. merched yn gweu

"Maen bwrw glaw allan, Mae'n hindda yn ty,A merched Tregaron , Yn gweu sane du!!!!
Ma'r gaeaf wedi dod, y dyddiau yn byrhau, amser i godi'r gweu a dechrai blogio unwaith eto!!!!!!

Sunday, 27 April 2008

80.Bryste a Llunden



Dod ar draws yr un top ym Mryste pan es i lawr i weld GogolBordello dechrai mis Ebrill..ac yna yr un gwaelod ar un o waliau allanol yr Amgueddfa Brydeinig yn Llunden.