Gwaith yr artist El Anatsui. Wedi ei eni yn Ghana ond yn byw yn Nigeria nawr. Darne oi waith yn y British Museum.Defnyddio pob math o ddefnyddie ai ailgylchu.
llun gwael iawn o Tracy Emin yn agor ei arddangosfa yn y Pafiliwn Prydeinig.....sef torri rhuban.....braidd yn draddodiadol a ddifflach i gymharu ar parti yn y Pafiliwn Rwsieg
Dwi wedi bod wrthi yn neud cyfres o gollographs ar ol fod ar y cwrs 'na yn Abertawe efo'r artist Vanita Voogd.Mae'n gret cael chware efo collage unwaith eto, a mae'n ffordd wych o ailgylchu hen brints.
wedi bod yn frysur wythnos 'ma...ma mynd a gadel y stiwdio yn neud lles mawr ar adegau...wedi dechrau sawl darn newydd ond sain siwr lle ma hwn i gyd yn arwain?
Ma'r darn 'ma o graffiti stensil i goffau y morwyr foddodd ar sybmarin Rwsieg y Kursk...ma na sawl un gwahanol i weld o gwmpas Fenis..dwi ddim yn siwr os i nhw yn cynrychioli y 108 a foddwyd.
Dwi wedi trial edrych am fwy o wybodaeth am y darn ar y we ond heb cael fawr o lwc.....hyd yn hyn.