Translate
Friday, 7 September 2012
Monday, 14 May 2012
Fairings
“Fairings”
Yn ystod Oes Fictoria pe byddech yn ymweld ar ffair, nid pysgodyn aur byddai’r wobr am daflu
hwpla ond ffigyrau tseina wedi eu mewnforio o’r Almaen. Pethau rhad wedi eu
atgynyrchu ar themau fel “Welsh Tea Party” oeddd yn boblogaidd.Gelwir y math
yma o addurn yn “Fairing”
Pantglas.
Diolch i Mihangel Morgan am gael y cyfle i neud y clawr ar gyfer nofel Pantglas:
Adolygiad Janice Jones o Pantglas
gan Mihangel Morgan. Y Lolfa. tt. 251. £8.95
Pantglas yw wythfed
nofel Mihangel Morgan ac mae darlun clawr deniadol Ruth Jên yn sicr o ddenu
llygad unrhyw ddarpar ddarllenydd.
Yn ogystal, cynhwyswyd nifer fechan o bortreadau
arddulliedig yr arlunydd o drigolion Pantglas yng nghorff y gwaith ac maent yn
gweddu i'r dim.
Clawr y llyfr
Egyr y gyfrol hon gydag oddeutu hanner dwsin o ddyfyniadau
sy'n mynegi'r 'cam' a wnaethpwyd â Chymru wrth i ardaloedd gael eu boddi i
gyflenwi dŵr i ddinasoedd yn Lloegr. Darlunnir hefyd ddiymadferthedd Cymry'r
gorffennol yn wyneb digwyddiadau o'r fath.
Roedd y dyfyniadau yn peri i ddarllenydd ddisgwyl y byddai
rhywbeth gwahanol, rhywbeth mwy heriol ac ymfflamychol i ddilyn, rhywbeth
fyddai'n gwrthddweud yr hyn a welwyd yn y dyfyniadau.
Ond nid yw'r nofel hon yn meddu ar linyn storïol gref
felly: yn hytrach, dilyna hynt a helynt trigolion Pantglas wrth eu bywydau bob
dydd tra bo'r gwaith ar yr argae yn mynd ymlaen o'u cwmpas.
Cawn brofi'r mân ddigwyddiadau a'r trasiedïau mawrion ym
mywydau'r pentrefwyr: geni, marw, caru, cyfrinachau, trais a hyd yn oed
llofruddiaethau; caiff y cyfan ei gwmpasu yn hanes y pentref hwn a'i drigolion.
A chrynhoir atyniadau daearyddol y pentref yn adroddiad Mr
Smith i Gorfforaeth y Ddinas ar addasrwydd Pantglas ar gyfer yr hyn sydd mewn
golwg ganddynt wrth iddo ddarparu i ymadael â'r pentref:
Pantglas, South Wales:
population,
92; houses,17; churches, 1; chapels, 1; inns, 3; farmhouses, 10; great houses,
Duferin Hall.
Site: North, mountains; West, mountains; South, mountains;
East, mountains. River.
Assessment: ideal.
Adar brithion yw trigolion Pantglas: John 'Pantglas' Jones
ei hun, Pitar Ŵad y meddwyn, Pedws Ffowc y wrach, Popi'r butain ac Estons y
gof, ymysg eraill. Mae yma'r gymysgedd o drigolion y byddai rhywun yn ei
ddisgwyl mewn darlun o bentref ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae nifer o'r cymeriadau hyn yn dra boddhaol, ond tueddu
at fod yn un ddimensiwn mae ambell un, ac o'r herwydd, yn ymddangos ychydig yn
gartwnaidd.
Ond gwelir yma fywyd - a marwolaeth - yn ei holl ogoniant
wrth i bobl Pantglas ddechrau deall beth fydd yn digwydd i'w pentref, a
chychwyn madael, fesul un neu ddau neu deulu cyfan.
Gwelir yma hefyd sôn am hen goelion gwerin megis y toili a
channwyll corff, yn ogystal ag arferion megis chwarae bando, y ffair ac
ymweliad y dyn sioe: 'John Henry Morris, Consuriwr Cyfrwysaf Cymru'.
Wrth i'r nofel fynd rhagddi gwelir hefyd sut y mae
dyfodiad gweithwyr yr argae a'u teuluoedd yn dylanwadu ar drigolion Pantglas ac
ar y pentref.
Penodau byrion iawn sydd i'r nofel - sawl un prin hwy na
thudalen - ac er bod hynny yn gwneud y darllen yn rhwydd iawn, golyga hefyd bod
darllenydd o dro i dro yn teimlo rhwystredigaeth wrth fethu a chael 'gafael' ar
y digwydd.
Er bod y dafodiaith ychydig yn ddieithr i glust 'gog',
mae'r iaith lafar ac iaith y naratif yn gyfoethog ac yn bleser i'w darllen.
Hanes pentref LLanwddyn a Llyn Efyrnwy sydd wedi'i
ddefnyddio'n rhannol fel cefndir ar gyfer y nofel hon. Mae'r awdur yn egluro
mewn ôl-nodyn sut y bu i'w gysylltiadau teuluol ei hun â'r ardal ei ysbrydoli i
fynd ati i ysgrifennu Pantglas. Meddai:
"Roedd fy hen fam-gu ar ochr fy nhad yn un o
drigolion Llanwddyn, ac yn ôl ewythr i mi roedd hi'n cadw siop yn y pentre.
Roedd fy hen dad-cu yn llafurwr a weithiodd ar argae Llyn Efyrnwy . . . "
Ond cadarnha: "nid llyfr hanes mo hwn ond
ffuglen".
Hanes neu ffuglen, mae Pantglas yn cynnig adloniant
i'r darllenydd ac er nad oes yma linyn storïol gref mae yma gryn dipyn i gnoi
cil arno.
Diwidiant Gwlan
Melin Ceulan
Melin Ceulan, Talybont, 2012
Caewyd Melin Ceulan yn yr
1950au ac, ar ddechrau'r 1980au, gwelwyd y felin olaf, Melin Leri, hefyd yn
cau. Erbyn yr 1990au yr unig felinau gweithredol yn y gymuned bellach oedd y
melinau gwynt sydd i'w gweld ar gopa'r bryniau rhwng Tal-y-bont a phentref
Bont-goch.
Brethyn
Diwrnod Cneifio yn Wenffrwd
Cneifio oedd uchafbwynt cymdeithasol y flwyddyn ar
ffermydd Cymru. Cneifid y cnuau mewn un darn, cyn eu rholio allan a’u plygu’n
ofalus i hwyluso’r gwaith o’u didoli yn y felin.
Roedd y broses ddidoli’n hanfodol gan fod gwahanol ddefaid
yn cynhyrchu gwlân o wahanol safon. Fe’u defnyddiwyd ar gyfer creu cynhyrchion
gwahanol fel dillad, carpedi a charthenni. Mae ansawdd gwlân yn amrywio yn
dibynnu ar ba ran o’r ddafad y daeth y cnu.
Diwrnod Cneifio yn Wenffrwd
Treulio diwrnod ar fferm fynyddig Wenffrwd yn tynnu lluniau.O'r chwith i'r dde, Alun Coedgruffudd, Ioan ei nai,Tegwyn Lewis perchenog y fferm, Huw Cwmcae, Steffan Evans (fy nai)
Subscribe to:
Posts (Atom)



